Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
28 Mawrth 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13267
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.29
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Rhaglen Porthladdoedd Rhydd Cymru
Dechreuodd yr eitem am 14.50
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mynediad at Wasanaethau Gofal Sylfaenol
Dechreuodd yr eitem am 15.34
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Papur Gwyn ar Dacsis a Cherbydau Hurio Preifat - TYNNWYD YN ÔL
Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.
6 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad
Dechreuodd yr eitem am 16.13
7 Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Y Rhaglen Ddiwygiedig ar gyfer Dileu TB
Dechreuodd yr eitem am 16.49
8 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adnodd – Cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru
Dechreuodd yr eitem am 17.19
9 Rheoliadau Diodydd Alcoholaidd (Diwygio) (Cymru) 2023
Dechreuodd yr eitem am 17.36
NDM8233 – Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diodydd Alcoholaidd (Diwygio) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 07 Mawrth 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
Dechreuodd yr eitem am 17.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8234 – Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Awst 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2022, 17 Tachwedd 2022, 6 Rhagfyr 2022, 15 Chwefror 2023, a 9 Mawrth 2023, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
12 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Derbyniwyd cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 11 a 12 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
11 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael: Cynnig 1
Dechreuodd yr eitem am 17.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8235 – Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Caffael, sef Rhan 1 "Diffiniadau Allweddol", Rhan 2 "Egwyddorion ac Amcanion", Rhan 3 "Dyfarnu Contractau Cyhoeddus a Gweithdrefnau", Rhan 4 "Rheoli Contractau Cyhoeddus", Rhan 5 "Gwrthdaro Buddiannau", Rhan 6 "Contractau Is Na'r Trothwy", Rhan 8 "Gwybodaeth a Hysbysiadau: Darpariaeth Gyffredinol", Rhan 9 "Rhwymedïau ar gyfer Torri Dyletswydd Statudol", Rhan 10 "Goruchwylio Caffael", Rhan 11 "Awdurdodau Priodol a Chaffael Trawsffiniol", Rhan 12 "Diwygiadau a Dirymiadau", Rhan 13 "Cyffredinol" a darpariaethau cysylltiedig yn Atodlenni 1 i 8, 10 ac 11, i'r graddau y dônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2022, 6 Rhagfyr 2022, 19 Rhagfyr 2022 a 6 Chwefror 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Caffael (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
12 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
12 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael: Cynnig 2
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8236 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caffael, sef "Treaty state suppliers", “Trade disputes” a darpariaethau cysylltiedig yn Atodlen 9, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2022, 6 Rhagfyr 2022, 19 Rhagfyr 2022 a 6 Chwefror 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Caffael (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
38 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig.
13 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Dechreuodd yr eitem am 18.31
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8226 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 2022, a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2022, 6 Chwefror 2023, a 10 Mawrth 2023, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
38 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig.
14 Dadl: Cyfnod Terfynol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 19.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8242 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.58:
Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), fel y'i diwygiwyd yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
15 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 19.14
Daeth y cyfarfod i ben am 19.18
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 29 Mawrth 2023